Numeri 2:20-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur.

21. A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.

22. Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni.

23. A'i lu ef, a'u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant.

Numeri 2