Numeri 19:10-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragwyddol.

11. A gyffyrddo â chorff marw dyn, aflan fydd saith niwrnod.

12. Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a'r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd.

13. Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd eto arno.

14. Dyma'r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i'r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.

15. A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe.

16. Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, ag un wedi ei ladd â chleddyf, neu ag un marw, neu ag asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod.

Numeri 19