Numeri 18:4-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch.

5. Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.

6. Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i'r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

Numeri 18