Numeri 18:14-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti.

15. Pob peth a agoro'r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i'r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn; a phrŷn y cyntaf‐anedig i'r anifail aflan.

16. A phâr brynu y rhai a bryner ohonot o fab misyriad, yn dy bris di, er pum sicl o arian, wrth sicl y cysegr: ugain gera yw hynny.

17. Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion, neu gyntaf‐anedig dafad, neu gyntaf‐anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a'u gwêr a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.

18. Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddeau, y mae yn eiddot ti.

19. Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i'r Arglwydd, a roddais i ti, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr Arglwydd, i ti, ac i'th had gyda thi.

20. A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a'th etifeddiaeth, ymysg meibion Israel.

21. Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.

22. Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw.

23. Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel.

24. Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i'r Arglwydd, a roddais i'r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.

25. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

26. Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i'r Arglwydd, sef degwm o'r degwm.

27. A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o'r ysgubor, ac fel cyflawnder o'r gwinwryf.

Numeri 18