Numeri 15:4-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Yna offrymed yr hwn a offrymo ei rodd i'r Arglwydd, o beilliaid ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew, yn fwyd‐offrwm.

5. Ac offrwm di gyda'r offrwm poeth, neu yr aberth, bedwaredd ran hin o win am bob oen, yn ddiod‐offrwm.

6. A thi a offrymi yn fwyd‐offrwm gyda hwrdd, o beilliaid ddwy ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy drydedd ran hin o olew.

7. A thrydedd ran hin o win yn ddiod‐offrwm a offrymi yn arogl peraidd i'r Arglwydd.

Numeri 15