28. A gwnaed yr offeiriad gymod dros y dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy amryfusedd gerbron yr Arglwydd, gan wneuthur cymod drosto; a maddeuir iddo.
29. Yr hwn a aned o feibion Israel, a'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg, un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.
30. Ond y dyn a wnêl bechod mewn rhyfyg, o briodor, neu o ddieithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
31. Oherwydd iddo ddiystyru gair yr Arglwydd, a thorri ei orchymyn ef; llwyr dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.
32. Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch, cawsant ŵr yn cynuta ar y dydd Saboth.
33. A'r rhai a'i cawsant ef, a'i dygasant ef, sef y cynutwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynulleidfa.
34. Ac a'i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.
35. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Lladder y gŵr yn farw: llabyddied yr holl gynulleidfa ef â meini o'r tu allan i'r gwersyll.
36. A'r holl gynulleidfa a'i dygasant ef i'r tu allan i'r gwersyll, ac a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
37. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
38. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre.
39. A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchmynion yr Arglwydd, ac i'w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain, nac yn ôl eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hôl:
40. Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchmynion i, ac y byddoch sanctaidd i'ch Duw.
41. Myfi ydyw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a'ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod i chwi yn Dduw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.