Numeri 15:27-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

27. Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd; yna offrymed afr flwydd yn offrwm dros bechod.

28. A gwnaed yr offeiriad gymod dros y dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy amryfusedd gerbron yr Arglwydd, gan wneuthur cymod drosto; a maddeuir iddo.

29. Yr hwn a aned o feibion Israel, a'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg, un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.

30. Ond y dyn a wnĂȘl bechod mewn rhyfyg, o briodor, neu o ddieithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.

31. Oherwydd iddo ddiystyru gair yr Arglwydd, a thorri ei orchymyn ef; llwyr dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.

Numeri 15