15. Yr un ddeddf fydd i chwi o'r dyrfa, ac i'r ymdeithydd dieithr; deddf dragwyddol yw trwy eich cenedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dieithr gerbron yr Arglwydd.
16. Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i'r ymdeithydd a ymdeithio gyda chwi.
17. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
18. Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i'r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo;
19. Yna pan fwytaoch o fara'r tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i'r Arglwydd.
20. O flaenion eich toes yr offrymwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwm dyrchafael y llawr dyrnu, felly y dyrchefwch hithau.
21. O ddechrau eich toes y rhoddwch i'r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenedlaethau.
22. A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchmynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses,
23. Sef yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o'r dydd y gorchmynnodd yr Arglwydd, ac o hynny allan, trwy eich cenedlaethau;