32. A'ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn.
33. A'ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch.
34. Yn ôl rhifedi'r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i.
35. Myfi yr Arglwydd a leferais, diau y gwnaf hyn i'r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i'm herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.
36. A'r dynion a anfonodd Moses i chwilio'r tir, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i'r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir;
37. Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i'r tir, a fuant feirw o'r pla, gerbron yr Arglwydd.
38. Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, a fuant fyw o'r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir.
39. A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a'r bobl a alarodd yn ddirfawr.
40. A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele ni, a ni a awn i fyny i'r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom.
41. A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda.
42. Nac ewch i fyny; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion.
43. Canys yr Amaleciaid a'r Canaaneaid ydynt yno o'ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyda chwi.
44. Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfamod yr Arglwydd, a Moses, ni symudasant o ganol y gwersyll.
45. Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a'r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a'u trawsant, ac a'u difethasant hyd Horma.