Numeri 14:15-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Os lleddi y bobl yma fel un gŵr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat, gan ddywedyd,

16. O eisiau gallu o'r Arglwydd ddwyn y bobl yma i'r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch.

17. Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, atolwg, nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist, gan ddywedyd,

18. Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth.

19. Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i'r bobl hyn, o'r Aifft hyd yma.

20. A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ôl dy air:

21. Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd.

22. Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a'm harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a'm temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais,

23. Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a'm digiasant, nis gwelant ef:

24. Ond fy ngwas Caleb, am fod ysbryd arall gydag ef, ac iddo fy nghyflawn ddilyn, dygaf ef i'r tir y daeth iddo: a'i had a'i hetifedda ef.

25. (Ond y mae'r Amaleciaid a'r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i'r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.

26. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

27. Pa hyd y cyd‐ddygaf â'r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i'm herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i'm herbyn.

28. Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi.

29. Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a'ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn,

30. Diau ni ddeuwch chwi i'r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.

Numeri 14