Numeri 11:24-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a'u gosododd hwynt o amgylch y babell.

25. Yna y disgynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o'r ysbryd oedd arno, ac a'i rhoddes i'r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai'r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent.

26. A dau o'r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o'r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i'r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll.

27. A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll.

28. A Josua mab Nun, gweinidog Moses o'i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt.

29. A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi, a rhoddi o'r Arglwydd ei ysbryd arnynt!

30. A Moses a aeth i'r gwersyll, efe a henuriaid Israel.

31. Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a'u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear.

32. Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a'r nos oll, a'r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.

33. A'r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodddigofaintyr Arglwydd yn erbyn y bobl; a'r Arglwydd a drawodd y bobl â phla mawr iawn.

34. Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth‐Hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent.

Numeri 11