Numeri 11:12-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a'u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i'r tir a addewaist trwy lw i'w tadau?

13. O ba le y byddai gennyf fi gig i'w roddi i'r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i'w fwyta.

14. Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi.

15. Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.

16. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi.

17. Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o'r ysbryd sydd arnat ti, ac a'i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.

18. Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i'w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwytewch.

19. Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;

20. Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o'ch ffroenau, a'i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu'r Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd Paham y daethom allan o'r Aifft?

Numeri 11