Numeri 10:9-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a'ch gorthrymo chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.

10. Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechrau eich misoedd, y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth, ac uwchben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

11. A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o'r mis, gyfodi o'r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth.

12. A meibion Israel a gychwynasant i'w taith o anialwch Sinai; a'r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran.

13. Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.

14. Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.

15. Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar.

16. Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon.

Numeri 10