27. Ac ar lu llwyth meibion Nafftali, Ahira mab Enan.
28. Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.
29. A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i'r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel.
30. Dywedodd yntau wrtho, Nid af ddim; ond i'm gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr af.
31. Ac efe a ddywedodd, Na ad ni, atolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni,
32. A phan ddelych gyda ni, a dyfod o'r daioni hwnnw, yr hwn a wna'r Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.
33. A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o'u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orffwysfa iddynt.
34. A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o'r gwersyll.
35. A hefyd pan gychwynnai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, Arglwydd, a gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseion o'th flaen.
36. A phan orffwysai hi, y dywedai efe, Dychwel, Arglwydd, at fyrddiwn miloedd Israel.