Numeri 10:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2. Gwna i ti ddau utgorn arian; yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynulleidfa ynghyd, ac i beri i'r gwersylloedd gychwyn.

3. A phan ganant รข hwynt, yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat, wrth ddrws pabell y cyfarfod.

4. Ond os ag un y canant; yna y tywysogion sef penaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant.

5. Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd y rhai a wersyllant tua'r dwyrain, a gychwynnant.

6. Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua'r deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.

7. Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa, cenwch yr utgyrn; ond na chenwch larwm.

8. A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr utgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau

9. Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a'ch gorthrymo chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.

Numeri 10