Numeri 1:49-54 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

49. Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymer eu nifer hwynt, ymysg meibion Israel.

50. Ond dod i'r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt‐hwy a ddygant y babell, a'i holl ddodrefn, ac a'i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i'r babell.

51. A phan symudo'r babell, y Lefiaid a'i tyn hi i lawr; a phan arhoso'r babell, y Lefiaid a'i gesyd hi i fyny: lladder y dieithr a ddelo yn agos.

52. A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun, a phob un wrth ei luman ei hun, trwy eu lluoedd.

53. A'r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth.

54. A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.

Numeri 1