Numeri 1:36-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. O feibion Benjamin, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel;

37. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant.

38. O feibion Dan, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel;

39. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thrigain a saith gant.

40. O feibion Aser, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel;

41. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phum cant.

42. O feibion Nafftali, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;

43. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Nafftali, oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

44. Dyma'r rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel; sef y deuddengwr, y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau.

45. Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel;

46. A'r holl rifedigion oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.

47. Ond y Lefiaid, trwy holl lwythau eu tadau, ni rifwyd yn eu mysg hwynt:

48. Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

49. Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymer eu nifer hwynt, ymysg meibion Israel.

50. Ond dod i'r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt‐hwy a ddygant y babell, a'i holl ddodrefn, ac a'i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i'r babell.

51. A phan symudo'r babell, y Lefiaid a'i tyn hi i lawr; a phan arhoso'r babell, y Lefiaid a'i gesyd hi i fyny: lladder y dieithr a ddelo yn agos.

Numeri 1