16. Dyma rai enwog y gynulleidfa, tywysogion llwythau eu tadau,penaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy.
17. A chymerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau;
18. Ac a gasglasant yr holl gynulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o'r ail fis; a rhoddasant eu hachau, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, erbyn eu pennau.
19. Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai.
20. A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, wrth eu cenedl eu hun, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a allai fyned i ryfel;
21. Y rhai a rifwyd ohonynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phum cant.
22. O feibion Simeon, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, eu rhifedigion oedd, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, sef pob un a'r a allai fyned i ryfel;
23. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Simeon, oedd onid un fil trigain mil a thri chant.
24. O feibion Gad, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu lluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allai fyned i ryfel;
25. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Gad, oeddynt bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.
26. O feibion Jwda, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pawb a'r a oedd yn gallu myned i ryfel;
27. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Jwda, oedd bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant.
28. O feibion Issachar, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel;
29. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Issachar, oedd bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
30. O feibion Sabulon, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;
31. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Sabulon, oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.