Nehemeia 9:4-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Yna y safodd ym mhulpud y Lefiaid, Jesua, a Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani, a Chenani; a gwaeddasant รข llef uchel ar yr Arglwydd eu Duw:

5. A'r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch, bendithiwch yr Arglwydd eich Duw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant.

6. Ti yn unig wyt Arglwydd: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a'u holl luoedd hwynt, y ddaear a'r hyn oll sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti.

Nehemeia 9