Nehemeia 9:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis hwn, meibion Israel a ymgynullasant mewn ympryd, ac mewn sachliain, a phridd arnaddynt.

2. A had Israel a ymneilltuasant oddi wrth bob dieithriaid, ac a safasant, ac a gyffesasant eu pechodau, ac anwireddau eu tadau.

3. A chodasant i fyny yn eu lle, ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr Arglwydd eu Duw, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i'r Arglwydd eu Duw.

Nehemeia 9