1. A'r holl bobl a ymgasglasant o un fryd i'r heol oedd o flaen porth y dwfr, ac a ddywedasant wrth Esra yr ysgrifennydd, am ddwyn llyfr cyfraith Moses, yr hon a orchmynasai yr Arglwydd i Israel.
2. Ac Esra yr offeiriad a ddug y gyfraith o flaen y gynulleidfa o wŷr, a gwragedd, a phawb a'r a oedd yn medru gwrando yn ddeallus, ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis.
3. Ac efe a ddarllenodd ynddo ar wyneb yr heol oedd o flaen porth y dwfr, o'r bore hyd hanner dydd, gerbron y gwŷr, a'r gwragedd, a'r rhai oedd yn medru deall: a chlustiau yr holl bobl oedd yn gwrando ar lyfr y gyfraith.
4. Ac Esra yr ysgrifennydd a safodd ar bulpud o goed, yr hwn a wnaethid i'r peth hyn; a chydag ef y safodd Matitheia, a Sema, ac Anaia, ac Ureia, a Hilceia, a Maaseia, ar ei law ddeau ef; a Phedaia, a Misael, a Malcheia, a Hasum, a Hasbadana, Sechareia, a Mesulam, ar ei law aswy ef.
5. Ac Esra a agorodd y llyfr yng ngŵydd yr holl bobl; (canys yr oedd efe oddi ar yr holl bobl;) a phan agorodd, yr holl bobl a safasant.
6. Ac Esra a fendithiodd yr Arglwydd, y Duw mawr. A'r holl bobl a atebasant, Amen, Amen, gan ddyrchafu eu dwylo: a hwy a ymgrymasant, ac a addolasant yr Arglwydd â'u hwynebau tua'r ddaear.
7. Jesua hefyd, a Bani, Serebeia, Jamin, Accub, Sabbethai, Hodeia, Maaseia, Celita, Asareia, Josabad, Hanan, Pelaia, a'r Lefiaid, oedd yn dysgu y gyfraith i'r bobl, a'r bobl yn sefyll yn eu lle.
8. A hwy a ddarllenasant yn eglur yn y llyfr, yng nghyfraith Dduw: gan osod allan y synnwyr, fel y deallent wrth ddarllen.
9. A Nehemeia, efe yw y Tirsatha, ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd, a'r Lefiaid y rhai oedd yn dysgu y bobl, a ddywedasant wrth yr holl bobl, Y mae heddiw yn sanctaidd i'r Arglwydd eich Duw; na alerwch, ac nac wylwch: canys yr holl bobl oedd yn wylo pan glywsant eiriau y gyfraith.
10. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, bwytewch y breision, ac yfwch y melysion, ac anfonwch rannau i'r hwn nid oes ganddo ddim yn barod; canys y mae heddiw yn sanctaidd i'n Harglwydd: am hynny na thristewch; canys llawenydd yr Arglwydd yw eich nerth chwi.
11. A'r Lefiaid a ostegasant yr holl bobl, gan ddywedyd, Tewch: canys y dydd heddiw sydd sanctaidd, ac na thristewch.