Nehemeia 7:68-73 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

68. Eu meirch hwynt oedd saith gant ac un ar bymtheg ar hugain; a'u mulod yn ddau cant a phump a deugain;

69. Y camelod oedd bedwar cant a phymtheg ar hugain; yr asynnod oedd chwe mil saith gant ac ugain.

70. A rhai o'r tadau pennaf a roddasant tuag at y gwaith. Y Tirsatha a roddodd i'r trysor fil o ddracmonau aur, deg a deugain o ffiolau, pum cant a deg ar hugain o wisgoedd offeiriaid.

71. A rhai o'r tadau pennaf a roddasant i drysor y gwaith ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil a deucant o bunnau o arian.

72. A'r hyn a roddodd y rhan arall o'r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o bunnau yn arian, a saith a thrigain o wisgoedd offeiriaid.

73. A'r offeiriaid, a'r Lefiaid, a'r porthorion, a'r cantorion, a rhai o'r bobl, a'r Nethiniaid, a holl Israel, a drigasant yn eu dinasoedd. A phan ddaeth y seithfed mis, yr oedd meibion Israel yn eu dinasoedd.

Nehemeia 7