6. Dyma feibion y dalaith, y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i Jwda, pob un i'w ddinas ei hun;
7. Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Asareia, Raamia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum, Baana. Dyma rifedi dynion pobl Israel;
8. Meibion Paros, dwy fil cant a deuddeg a thrigain.
9. Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.
10. Meibion Ara, chwe chant a deuddeg a deugain.
11. Meibion PahathâMoab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg.