Nehemeia 7:53-65 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

53. Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur,

54. Meibion Baslith, meibion Mehida, meibion Harsa,

55. Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama,

56. Meibion Neseia, meibion Hatiffa.

57. Meibion gweision Solomon: meibion Sotai, meibion Soffereth, meibion Perida,

58. Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel,

59. Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Amon.

60. Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain.

61. A'r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐haresa, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na'u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt.

62. Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.

63. Ac o'r offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt.

64. Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.

65. A'r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o'r pethau sancteiddiolaf, hyd oni chyfodai offeiriaid ag Urim ac â Thummim.

Nehemeia 7