45. Y porthorion: meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, cant a thri ar bymtheg ar hugain.
46. Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth,
47. Meibion Ceros, meibion Sïa, meibion Padon,
48. Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Salmai,
49. Meibion Hanan, meibion Gidel, meibion Gahar,
50. Meibion Reaia, meibion Resin, meibion Necoda,
51. Meibion Gassam, meibion Ussa, meibion Phasea,
52. Meibion Besai, meibion Meunim, meibion Neffisesim,
53. Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur,
54. Meibion Baslith, meibion Mehida, meibion Harsa,
55. Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama,
56. Meibion Neseia, meibion Hatiffa.
57. Meibion gweision Solomon: meibion Sotai, meibion Soffereth, meibion Perida,
58. Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel,
59. Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Amon.
60. Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant a deuddeg a phedwar ugain.
61. A'r rhai hyn a ddaethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐haresa, Cerub, Adon, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na'u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt.
62. Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a dau a deugain.
63. Ac o'r offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai, yr hwn a gymerth un o ferched Barsilai y Gileadiad yn wraig, ac a alwyd ar eu henw hwynt.
64. Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond nis cafwyd: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.