Nehemeia 7:4-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A'r ddinas oedd eang a mawr; ac ychydig bobl ynddi: a'r tai nid oeddynt wedi eu hadeiladu.

5. A'm Duw a roddodd yn fy nghalon gynnull y pendefigion, y tywysogion hefyd, a'r bobl, i'w cyfrif wrth eu hachau. A mi a gefais lyfr achau y rhai a ddaethai i fyny yn gyntaf, a chefais yn ysgrifenedig ynddo,

6. Dyma feibion y dalaith, y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac i Jwda, pob un i'w ddinas ei hun;

7. Y rhai a ddaethant gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Asareia, Raamia, Nahamani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum, Baana. Dyma rifedi dynion pobl Israel;

8. Meibion Paros, dwy fil cant a deuddeg a thrigain.

9. Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.

10. Meibion Ara, chwe chant a deuddeg a deugain.

11. Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil ac wyth gant a thri ar bymtheg.

12. Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.

13. Meibion Sattu, wyth gant a phump a deugain.

Nehemeia 7