26. Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant ac wyth a phedwar ugain.
27. Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain.
28. Gwŷr Beth‐asmafeth, dau a deugain.
29. Gwŷr Ciriath‐jearim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain.
30. Gwŷr Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain.
31. Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain.
32. Gwŷr Bethel ac Ai, cant a thri ar hugain.
33. Gwŷr Nebo arall, deuddeg a deugain.
34. Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.
35. Meibion Harim, tri chant ac ugain.
36. Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain.
37. Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant ac un ar hugain.
38. Meibion Senaa, tair mil naw cant a deg ar hugain.
39. Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant a thri ar ddeg a thrigain.
40. Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain.
41. Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain.
42. Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.
43. Y Lefiaid: meibion Jesua, o Cadmiel, ac o feibion Hodefa, pedwar ar ddeg a thrigain.
44. Y cantorion: meibion Asaff, cant ac wyth a deugain.