Nehemeia 7:25-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Meibion Gibeon, pymtheg a phedwar ugain.

26. Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant ac wyth a phedwar ugain.

27. Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain.

28. Gwŷr Beth‐asmafeth, dau a deugain.

29. Gwŷr Ciriath‐jearim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain.

30. Gwŷr Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain.

31. Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain.

32. Gwŷr Bethel ac Ai, cant a thri ar hugain.

33. Gwŷr Nebo arall, deuddeg a deugain.

34. Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.

35. Meibion Harim, tri chant ac ugain.

36. Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain.

37. Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant ac un ar hugain.

38. Meibion Senaa, tair mil naw cant a deg ar hugain.

39. Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant a thri ar ddeg a thrigain.

40. Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain.

41. Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain.

Nehemeia 7