Nehemeia 4:12-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt, dywedasant wrthym ddengwaith, O'r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni, y byddant arnoch chwi.

13. Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf, o'r tu ôl i'r mur, ac yn y lleoedd uchaf; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â'u cleddyfau, â'u gwaywffyn, ac â'u bwâu.

14. A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a'r swyddogion, ac wrth y rhan arall o'r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a'ch merched, eich gwragedd a'ch tai.

15. A phan glybu ein gelynion fod y peth yn hysbys i ni, Duw a ddiddymodd eu cyngor hwynt; a ninnau oll a ddychwelasom at y mur, bawb i'w waith.

16. Ac o'r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a'u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a'r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda.

Nehemeia 4