9. Yna y deuthum at y tywysogion o'r tu hwnt i'r afon, ac a roddais iddynt lythyrau y brenin. A'r brenin a anfonasai dywysogion y llu, a marchogion gyda mi.
10. Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel.
11. Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem, ac a fûm yno dridiau.
12. A chyfodais liw nos, myfi ac ychydig wŷr gyda mi; ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy Nuw yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem: ac anifail nid oedd gennyf, ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno.
13. A mi a euthum allan liw nos, trwy borth y glyn, ar gyfer ffynnon y ddraig, ac at borth y dom; a deliais sylw ar furiau Jerwsalem y rhai oedd wedi eu dryllio, a'i phyrth y rhai oedd wedi eu hysu â thân.
14. Yna y tramwyais i borth y ffynnon, ac at bysgodlyn y brenin: ac nid oedd le i'r anifail oedd danaf i fyned heibio.
15. A mi a euthum i fyny gan lan yr afon liw nos, ac a ddeliais sylw ar y mur, ac a ddychwelais, ac a ddeuthum trwy borth y glyn, ac felly y troais yn ôl.
16. A'r penaethiaid ni wyddent i ba le yr aethwn i, na pheth yr oeddwn yn ei wneuthur; a hyd yn hyn ni fynegaswn ddim i'r Iddewon, nac i'r offeiriaid, nac i'r pendefigion, nac i'r penaethiaid, nac i'r rhan arall oedd yn gwneuthur y gwaith.
17. Yna y dywedais wrthynt, Yr ydych yn gweled yr adfyd yr ydym ynddo, fod Jerwsalem wedi ei dinistrio, a'i phyrth wedi eu llosgi â thân: deuwch, ac adeiladwn fur Jerwsalem, fel na byddom mwyach yn waradwydd.
18. Yna y mynegais iddynt fod llaw fy Nuw yn ddaionus tuag ataf; a geiriau y brenin hefyd y rhai a ddywedasai efe wrthyf. A hwy a ddywedasant, Cyfodwn, ac adeiladwn. Felly y cryfhasant eu dwylo i ddaioni.
19. Ond pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, a Gesem yr Arabiad, hyn, hwy a'n gwatwarasant ni, ac a'n dirmygasant, ac a ddywedasant, Pa beth yw hyn yr ydych chwi yn ei wneuthur? a wrthryfelwch chwi yn erbyn y brenin?