4. A'r brenin a ddywedodd wrthyf, Pa beth yr wyt ti yn ei ddymuno? Yna y gweddïais ar Dduw y nefoedd.
5. A mi a ddywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i'r brenin, ac od yw dy was yn gymeradwy ger dy fron di, ar i ti fy anfon i Jwda, i ddinas beddrod fy nhadau, fel yr adeiladwyf hi.
6. A'r brenin a ddywedodd wrthyf, a'i wraig yn eistedd yn ei ymyl ef, Pa hyd y bydd dy daith di, a pha bryd y dychweli? A gwelodd y brenin yn dda fy anfon i, a minnau a nodais iddo amser.
7. Yna y dywedais wrth y brenin, O rhynga bodd i'r brenin, rhodder i mi lythyrau at y tywysogion o'r tu hwnt i'r afon, fel y trosglwyddont fi nes fy nyfod i Jwda;
8. A llythyr at Asaff, ceidwad coedwig y brenin, fel y rhoddo efe i mi goed i wneuthur trawstiau i byrth y palas y rhai a berthyn i'r tŷ, ac i fur y ddinas, ac i'r tŷ yr elwyf iddo. A'r brenin a roddodd i mi, fel yr oedd daionus law fy Nuw arnaf fi.
9. Yna y deuthum at y tywysogion o'r tu hwnt i'r afon, ac a roddais iddynt lythyrau y brenin. A'r brenin a anfonasai dywysogion y llu, a marchogion gyda mi.
10. Pan glybu Sanbalat yr Horoniad, a Thobeia y gwas, yr Ammoniad, y peth hyn, bu ddrwg iawn ganddynt, am ddyfod dyn i geisio daioni i feibion Israel.
11. Felly mi a ddeuthum i Jerwsalem, ac a fûm yno dridiau.
12. A chyfodais liw nos, myfi ac ychydig wŷr gyda mi; ac ni fynegais i neb beth a roddasai fy Nuw yn fy nghalon ei wneuthur yn Jerwsalem: ac anifail nid oedd gennyf, ond yr anifail yr oeddwn yn marchogaeth arno.
13. A mi a euthum allan liw nos, trwy borth y glyn, ar gyfer ffynnon y ddraig, ac at borth y dom; a deliais sylw ar furiau Jerwsalem y rhai oedd wedi eu dryllio, a'i phyrth y rhai oedd wedi eu hysu â thân.
14. Yna y tramwyais i borth y ffynnon, ac at bysgodlyn y brenin: ac nid oedd le i'r anifail oedd danaf i fyned heibio.
15. A mi a euthum i fyny gan lan yr afon liw nos, ac a ddeliais sylw ar y mur, ac a ddychwelais, ac a ddeuthum trwy borth y glyn, ac felly y troais yn ôl.