Nehemeia 13:6-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin;

7. Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ Dduw.

8. A bu ddrwg iawn gennyf; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o'r ystafell.

Nehemeia 13