Nehemeia 13:26-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei Dduw, a Duw a'i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel; eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu.

27. Ai arnoch chwi y gwrandawn, i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan droseddu yn erbyn ein Duw, trwy briodi gwragedd dieithr?

28. Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf.

29. O fy Nuw, cofia hwynt, am iddynt halogi'r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a'r Lefiaid.

30. Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron; gosodais hefyd oruchwyliaethau i'r offeiriaid ac i'r Lefiaid, pob un yn ei waith;

31. Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig, ac at y blaenffrwythau. Cofia fi, O fy Nuw, er daioni.

Nehemeia 13