Nehemeia 12:40-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

40. Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ Dduw, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi:

41. Yr offeiriaid hefyd; Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, ag utgyrn:

42. Maaseia hefyd, a Semaia, ac Eleasar, ac Ussi, a Jehohanan, a Malcheia, ac Elam, ac Esra. A'r cantorion a ganasant yn groch, a Jasraheia eu blaenor.

43. A'r diwrnod hwnnw yr aberthasant ebyrth mawrion, ac y llawenhasant: canys Duw a'u llawenychasai hwynt â llawenydd mawr: y gwragedd hefyd a'r plant a orfoleddasant: fel y clybuwyd llawenydd Jerwsalem hyd ymhell.

44. A'r dwthwn hwnnw y gosodwyd gwŷr ar gelloedd y trysorau, ar yr offrymau, ar y blaenffrwyth, ac ar y degymau, i gasglu iddynt hwy o feysydd y dinasoedd y rhannau cyfreithlon i'r offeiriaid a'r Lefiaid: canys llawenydd Jwda oedd ar yr offeiriaid ac ar y Lefiaid y rhai oedd yn sefyll yno.

45. Y cantorion hefyd a'r porthorion a gadwasant wyliadwriaeth eu Duw, a gwyliadwriaeth y glanhad, yn ôl gorchymyn Dafydd, a Solomon ei fab.

Nehemeia 12