26. Y rhai hyn oedd yn nyddiau Joiacim mab Jesua, fab Josadac, ac yn nyddiau Nehemeia y tywysog, ac Esra yr offeiriad a'r ysgrifennydd.
27. Ac yng nghysegriad mur Jerwsalem y ceisiasant y Lefiaid o'u holl leoedd, i'w dwyn i Jerwsalem, i wneuthur y cysegriad â gorfoledd, mewn diolchgarwch, ac mewn cân, â symbalau, nablau, ac â thelynau.
28. A meibion y cantorion a ymgynullasant o'r gwastadedd o amgylch i Jerwsalem, ac o drefydd Netoffathi,
29. Ac o dŷ Gilgal, ac o feysydd Geba ac Asmafeth: canys y cantorion a adeiladasent bentrefi iddynt o amgylch Jerwsalem.
30. Yr offeiriaid hefyd a'r Lefiaid a ymlanhasant; glanhasant hefyd y bobl, a'r pyrth, a'r mur.
31. A mi a berais i dywysogion Jwda ddringo ar y mur; a gosodais ddwy fintai fawr o rai yn moliannu; a mynediad y naill oedd ar y llaw ddeau ar y mur tua phorth y dom:
32. Ac ar eu hôl hwynt yr aeth Hosaia, a hanner tywysogion Jwda,