Nehemeia 12:11-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A Joiada a genhedlodd Jonathan, a Jonathan a genhedlodd Jadua.

12. Ac yn nyddiau Joiacim, yr offeiriaid hyn oedd bennau‐cenedl: o Seraia, Meraia; o Jeremeia, Hananei;

13. O Esra, Mesulam; o Amareia Jehohanan;

14. O Melichu, Jonathan; o Sebaneia, Joseff;

15. O Harim, Adna; o Meraioth, Helcai;

16. O Ido, Sechareia; o Ginnethon, Mesulam;

17. O Abeia, Sichri; o Miniamin, o Moadeia, Piltai;

18. O Bilga, Sammua; o Semaia, Jehonathan;

19. Ac o Joiarib, Matenai; o Jedaia, Ussi;

20. O Salai, Calai; o Amoc, Eber;

21. O Hilceia, Hasabeia: o Jedaia, Nethaneel.

Nehemeia 12