Nehemeia 11:29-36 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Ac yn En‐rimmon, ac yn Sarea, ac yn Jarmuth,

30. Sanoa, Adulam, a'u trefydd, Lachis a'i meysydd, yn Aseca a'i phentrefi. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom.

31. A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas, ac Aia, a Bethel, a'u pentrefi,

32. Yn Anathoth, Nob, Ananeia,

33. Hasor, Rama, Gittaim,

34. Hadid, Seboim, Nebalat,

35. Lod, ac Ono, glyn y crefftwyr.

36. Ac o'r Lefiaid yr oedd rhannau yn Jwda, ac yn Benjamin.

Nehemeia 11