Nehemeia 11:22-33 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem, oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y cantorion oedd ar waith tŷ Dduw.

23. Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd, fod ordinhad safadwy i'r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd.

24. A Phethaheia mab Mesesabeel, o feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i'r bobl.

25. Ac am y trefydd a'u meysydd, rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer‐Arba a'i phentrefi, ac yn Dibon a'i phentrefi, ac yn Jecabseel a'i phentrefi,

26. Ac yn Jesua, ac ym Molada, ac yn Beth‐phelet,

27. Ac yn Hasar‐sual, ac yn Beerseba a'i phentrefi,

28. Ac yn Siclag, ac ym Mechona ac yn ei phentrefi,

29. Ac yn En‐rimmon, ac yn Sarea, ac yn Jarmuth,

30. Sanoa, Adulam, a'u trefydd, Lachis a'i meysydd, yn Aseca a'i phentrefi. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom.

31. A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas, ac Aia, a Bethel, a'u pentrefi,

32. Yn Anathoth, Nob, Ananeia,

33. Hasor, Rama, Gittaim,

Nehemeia 11