Nehemeia 11:14-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A'u brodyr hwynt, yn gedyrn o nerth, oedd gant ac wyth ar hugain: a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt.

15. Ac o'r Lefiaid: Semaia mab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia fab Bunni.

16. Sabbethai hefyd, a Josabad, o benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o'r tu allan i dŷ Dduw.

17. Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o'i frodyr; ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn.

Nehemeia 11