1. Daeth y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb: cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd, nertha dy lwynau, cadarnha dy nerth yn fawr.
2. Canys dychwelodd yr Arglwydd ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd Israel: canys y dihysbyddwyr a'u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd.
3. Tarian ei wŷr grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷr o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a'r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol.
4. Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant.
5. Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a'r amddiffyn a baratoir.
6. Pyrth y dwfr a agorir, a'r palas a ymddetyd.
7. A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a'i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau.
8. A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl.
9. Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr, a'r gogoniant o bob dodrefn dymunol.