Micha 7:15-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau.

16. Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant.

17. Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o'u llochesau: arswydant rhag yr Arglwydd ein Duw ni, ac o'th achos di yr ofnant.

18. Pa Dduw sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd.

19. Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr.

20. Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i'n tadau er y dyddiau gynt.

Micha 7