Micha 6:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr Arglwydd; Cyfod, ymddadlau â'r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais.

2. Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gŵyn yr Arglwydd; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a'i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel.

Micha 6