Micha 4:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o'r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y'th waredir; yno yr achub yr Arglwydd di o law dy elynion.

11. Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i'th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion.

12. Ond ni wyddant hwy feddyliau yr Arglwydd, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a'u casgl hwynt fel ysgubau i'r llawr dyrnu.

13. Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a'th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i'r Arglwydd eu helw hwynt, a'u golud i Arglwydd yr holl ddaear.

Micha 4