7. A'i holl ddelwau cerfiedig a gurir yn ddrylliau, a'i holl wobrau a losgir yn tân, a'i holl eilunod a osodaf yn anrheithiedig: oherwydd o wobr putain y casglodd hi hwynt, ac yn wobr putain y dychwelant.
8. Oherwydd hyn galaraf ac udaf; cerddaf yn noeth ac yn llwm: gwnaf alar fel dreigiau, a gofid fel cywion y dylluan.
9. Oherwydd dolurus yw ei harcholl: canys daeth hyd at Jwda; daeth hyd borth fy mhobl, hyd Jerwsalem.
10. Na fynegwch hyn yn Gath; gan wylo nac wylwch ddim: ymdreigla mewn llwch yn nhŷ Affra.
11. Dos heibio, preswylferch Saffir, yn noeth dy warth: ni ddaeth preswylferch Saanan allan yng ngalar Beth-esel, efe a dderbyn gennych ei sefyllfan.
12. Canys trigferch Maroth a ddisgwyliodd yn ddyfal am ddaioni; eithr drwg a ddisgynnodd oddi wrth yr Arglwydd hyd at borth Jerwsalem.
13. Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.
14. Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel.
15. Eto mi a ddygaf etifedd i ti, preswylferch Maresa: daw hyd Adulam, gogoniant Israel.
16. Ymfoela, ac ymeillia am dy blant moethus: helaetha dy foelder fel eryr; canys caethgludwyd hwynt oddi wrthyt.