Mathew 9:20-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. (Ac wele, gwraig y buasai gwaedlif arni ddeuddeng mlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisg ef:

21. Canys hi a ddywedasai ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf.

22. Yna yr Iesu a drodd; a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch, bydd gysurus; dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iachawyd o'r awr honno.)

23. A phan ddaeth yr Iesu i dŷ'r pennaeth, a gweled y cerddorion a'r dyrfa yn terfysgu,

24. Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch; canys ni bu farw y llances, ond cysgu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.

25. Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi; a'r llances a gyfododd.

26. A'r gair o hyn a aeth dros yr holl wlad honno.

27. A phan oedd yr Iesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mab Dafydd, trugarha wrthym.

28. Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant ato: a'r Iesu a ddywedodd wrthynt, a ydych chwi yn credu y gallaf fi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym, Arglwydd.

29. Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded i chwi.

30. A'u llygaid a agorwyd: a'r Iesu a orchmynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch nas gwypo neb.

Mathew 9