Mathew 8:16-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion รข'i air, ac a iachaodd yr holl gleifion;

17. Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.

18. A'r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i'r lan arall.

19. A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.

20. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.

21. Ac un arall o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.

Mathew 8