4. Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.
5. Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.
6. Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.
7. Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.
8. Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw.
9. Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.
10. Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
11. Gwyn eich byd pan y'ch gwaradwyddant, ac y'ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog.
12. Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy'r proffwydi a fu o'ch blaen chwi.
13. Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion.
14. Chwi yw goleuni'r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio.
15. Ac ni oleuant gannwyll, a'i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ.