Mathew 5:36-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

36. Ac na thwng i'th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu.

37. Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o'r drwg y mae.

38. Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant:

39. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a'th drawo ar dy rudd ddeau, tro'r llall iddo hefyd.

40. Ac i'r neb a fynno ymgyfreithio รข thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd.

41. A phwy bynnag a'th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy.

Mathew 5