Mathew 5:32-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo'r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33. Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i'r Arglwydd:

34. Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i'r nef; canys gorseddfa Duw ydyw:

35. Nac i'r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw.

36. Ac na thwng i'th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu.

37. Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o'r drwg y mae.

38. Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant:

39. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a'th drawo ar dy rudd ddeau, tro'r llall iddo hefyd.

40. Ac i'r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd.

41. A phwy bynnag a'th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy.

42. Dyro i'r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.

43. Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.

Mathew 5