Mathew 5:20-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.

21. Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn:

22. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern.

23. Gan hynny, os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod i'th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn;

24. Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â'th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd.

25. Cytuna â'th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i'th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw'r barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, a'th daflu yng ngharchar.

26. Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.

27. Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb;

28. Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i'w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon.

29. Ac os dy lygad deau a'th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.

30. Ac os dy law ddeau a'th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern.

31. A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar:

32. Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo'r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

Mathew 5